Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi gwybod i Lywodraeth
Cymru am yr angen brys i ddarparu uned anhwylderau bwyta arbenigol
yng Nghymru.
Gwybodaeth ychwanegol:
Hoffem weld uned anhwylderau bwyta arbenigol yn cael ei hadeiladu yng Nghymru i leihau’r pwysau a’r anghyfleustra o orfod teithio mor bell o aelodau’r teulu a chyfeillion drwy orfod mynd i Loegr i gael triniaeth. Yn 2007, cydnabu’r Llywodraeth nad oedd triniaeth arbenigol ar gael yng Nghymru a bod angen i’r sefyllfa hon newid, ond bum mlynedd yn ddiweddarach rydym yn dal i aros am y newid hwnnw. Gwn o brofiad personol pa mor anodd yw bod mewn ysbyty mor bell o gartref, a chredaf y byddai cael uned anhwylderau bwyta yng Nghymru yn gwneud y broses o gael triniaeth ac o wella yn rhwyddach i ddioddefwyr o Gymru.
Prif ddeisebydd: Keira Marlow
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 8 Hydref 2013
Nifer y llofnodion : 526